nad ydi plant y Seiat ddim yn mynd i'r Tân Poeth."
"Mae hi'n dy gadw di rhag peryg sy'n nes atat ti, was, na'r Tân Poeth," ebe Moses.
Bedi hwnnw?" ebe Dic.
"Cwrbins," ebe Moses.
Efallai y dylid hysbysu'r anwybodus mai gair Moesenaidd am y gurfa dadol â'i hamcan i ddyrchafu cymeriad, a chreu ffyddlondeb i foddion y cysegr, hyd yn oed y moddion mwyaf anniddorol, yw "cwrbins."
Bu tawelwch mawr wedyn, a myfyrdod hir.
"Mi garwn i fod yn lle'r dyn yn y lleuad," ebe Dic yn y man, "yn cael hel pricie drwy'r dydd, a gneud coelcerth, a byta cnau, a phethe felly, heb sôn am Ysgol na Seiat nac adnod."
"Felly finne," ebe Moses yn eiddgar, "neu fod yn lle Wil Bach."
A daliai'r coed i chwarae rhyngddynt a'r lleuad, a daliai'r dyn yn y lleuad i wincio arnynt o hyd, yn ôl eu syniad hwy.
Teimlent anesmwythter newydd yn rhyw ymgripio trostynt, ac arswyd rhag y Tyno du, dirgel, yn nesu atynt. Edrychasant i fyny drachefn i chwilio am eu hunig gwmni,—y dyn yn y lleuad, a gwelsant fod cwmwl trwm wedi dyfod o rywle yn sydyn, a chuddio'r lleuad a'i phreswylydd. Edrychasant i fyny yn hir heb ddywedyd dim wrth ei gilydd. Teimlent yn llai ofnus wrth anghofio'r Tyno a'i unigedd. A chaent gymorth