Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

III

AR Y DAITH

CLYWSAI Dic a Moses lawer gwaith am bethau'n mynd "fel y fellten," ond ni ddychmygodd yr un ohonynt erioed y deuai adeg iddynt hwythau eu hunain deithio mewn gwirionedd cyn gynted â hynny. Eithr dyna eu hanes yn awr. Aent mor gyflym nes teimlo y gallent yn hawdd ddal y fellten gyflymaf a welsant erioed. Ni wyddent nad yw mellten yn symud, fel y gwyddoch chwi, ond mai ymddangos fel pedfai'n symud y mae. Pan fyddoch yn mynd mewn trên cyflym, ac yn pasio trên arall heb fod mor gyflym, ymddengys y trên hwnnw fel pedfai'n sefyll yn ei unfan, neu, yn wir, yn mynd yn ei ôl. A chredai Dic a Moses, pe pasient fellten, yr ymddangosai hithau fel pedfai'n sefyll, neu'n cilio'n ôl. A thybient mai profiad go ddieithr fuasai gweld mellten yn aros yn ei hunfan.

Yn syth tua'r lleuad yr aent, a chwyddai hithau'n gyflym fel y neshaent ati. Yn lle goleuo fwy fwy, tywyllai, a deuai rhyw ffurfiau rhyfedd i'r golwg ar ei hwyneb. Yn sydyn, fe'u teimlent eu hunain yn dechreu arafu. Yn y man llonydd- asant mor llwyr nes methu â symud dim, a dechreuasant droi yn eu hun fan yn y gwagle. Wrth droi gwelent, er eu syndod, leuad arall y