ble 'roedden ni. Ond yr hyn a dorrodd 'y nghalon. i, Dic bach, oedd clywed ei llais hi pan oedd hi'n canu,—
O! tyred yn ôl, O! tyred yn ôl,
Pe gwyddwn lle 'rydwyt ehedwn i'th nôl.'
A hithe hefyd yn edrych i fyw fy llygad i ar y pryd, fel tase hi'n gwybod yn iawn lle roeddwn i."
A thorrodd Moses i feichio crio wedyn, a chafodd Dic a dyn y lleuad y drafferth fwyaf i luchio'i ddagrau i ffwrdd fel y rhewent, rhag i'w wyneb gydio eto yn y llawr. Canys anghofiodd y perygl hwn gan faint ei ofid.
"O!" eb ef yn y man, "na chawn i fynd yn ôl ati, ac i ni'n dau efo'n gilydd orffen byta'r cyfleth hwnnw, a mynd wedyn i hel cnau,—i mi ddringo'r coed i'w hel nhw iddi hi, a hithe'n dal ei brat i'w derbyn nhw. Ond am y lle yma nid oes sôn am na phren cnau, na phren crabas, na dim byd." A thorrodd i wylo'n ddiobaith wedyn, a Dic yn edrych yn ddwys a myfyriol arno.
Gofynnodd Dic i'r dyn, toc, a oedd rhywun weithiau'n digwydd dyfod i'r lleuad, ac ai hwy oedd y rhai cyntaf erioed o'r ddaear i ddyfod yno. Meddwl yr oedd ynghylch y paham y dychmygodd neb erioed am y syniad o ddysgu Daearyddiaeth, os nad er mwyn adnabod gwahanol rannau'r ddaear o'r lleuad.
"Nage," ebe'r dyn, "nid chi ydi'r rhai cynta, y mae Shonto'r Coed, fy mrawd, yn dwad yma ar ei dro. Pan fydd y lleuad yn y cyflwr a alwch