Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chi'n lleuad lawn rydwi'n mynd i'r ddaear weithie, pan gai arwydd odd'no. A phan fydd y ddaear yr hyn a alwaf finne'n ddaear lawn,— hynny ydi fel y deydes i o'r blaen, yn oleu drosti i gyd, mae ynte'n dueddol iawn i ddwad yma. Dene pam y mae'r Tylwyth Teg allan ar noson gannaid oleu leuad,—allan i nghroesawu i y mae nhw. 'Does dim byd difyrrach na llithro i'r ddaear ar belydryn o oleu'r lleuad, na dim difyrrach na llithro yma ar belydre'r ddaear. Mae ffyrdd erill i fynd yn ôl a blaen, megis neidio ar gwmwl, a neidio wedyn ar y ddaear, ond llithro ar belydryn o oleuni ydi'r ffordd ore os bydd hi'n hollol ddigwmwl. Ond feder neb neud hynny heblaw Shonto a finne."

Gloywodd llygaid Dic, a siriolodd Moses drwyddo, wrth feddwl am yr hyn a alwent yn "ffri-whilio " ar belydr y lleuad. Gwyddent yn dda beth oedd eistedd ar ganllaw'r Allt Hir a "ffri-whilio" i'r gwaelod, ond beth oedd hyn i "ffri-whilio" am filoedd o filltiroedd ar belydr goleuni'r lleuad a'r ddaear? Buasai hynny'n tynnu dwfr o ddannedd hyd yn oed Tomi'r Go, a "ffri-whiliodd " unwaith ar ei eistedd o dop Craig y Gwalch i'r gwaelod, ac a ddaeth i dipyn o helynt ar ddiwedd y daith. A serth iawn oedd Craig y Gwalch.

Glywsoch chi'r stori am Tomi'r Go, Rhys Llwyd?" ebe Moses wrth y dyn.

"Naddo wir, be ydi hi?" ebe'r dyn.