"Be wyt ti'n feddwl wrth ddeyd bod Seiat yn para,'" ebe'r dyn, "'roeddwn i'n meddwl mai pethe byw oeddech chi'n ddeyd oedden nhw. Mi welodd Shonto un wedi marw o eisio bwyd, medde fo. Ddaru mi ddim dallt arnoch chi mai pethe bach byw yn pigo oedden nhw? A be ydi ysgol ac adnod, rwan yr yden ni'n sôn am y peth? Mae dywediad Shonto ei fod o wedi gweld adnod yn rhedeg ar ôl rhyw fachgen wedi dyrysu llawer arna i hefyd, yng ngoleuni rhyw bethe a glywes i gennoch chi."
Shonto sy'n deyd clwydde," ebe Dic.
Shonto! Shonto, 'mrawd i! Shonto'r mwya gwybodus a doeth yn y byd yn deyd clwydde! " ebe'r dyn yn wyn gan wylltineb, a thynnu'i wallt fel un wedi mynd o'i go. " Rhosa di, 'machgen i, i mi dy dynnu di'n greie," eb ef gan gyrraedd am Ddic, ond yr oedd Dic yn rhy gyflym iddo. I ffwrdd ag ef, â'r dyn ar ei ôl. Rhedasant ar ôl ei gilydd dros fynyddoedd a dyffrynnoedd,— Dic yn mynd i ben mynydd fel aderyn, a'r dyn ar ei ôl, yna'n neidio o dop y mynydd uchaf i'r gwaelod. A phan oedd y dyn yn yr awyr yn disgyn mewn naid o ben y mynydd ar ei ôl, neidiodd Dic i fyny i'w gyfarfod fel y gwelsoch geiliog ar fuarth fferm yn neidio i gyfarfod barcud oedd ar ddisgyn ar gyw, a gafaelodd yn ei draed, a throdd ef fel gwynt gerfydd ei draed o amgylch ei ben nes iddo benfeddwi'r hen ddyn yn llwyr.