Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gosododd ef wedyn ar wastad ei gefn ar lawr, ac eistedd ar ei frest, a galw ar Foses. Ond cofiasai Moses gyngor ei fam,—

"Moses bach, 'machgen i, paid byth â gneud dim os na fyddi di'n siwr o'r canlyniade," ac arhosodd yn ei unfan yn edrych yn frawychus arnynt.

Yr oedd y dyn wedi ei orchfygu'n llwyr, ac wedi ei ddyrysu'n lân wrth i Ddic ei droi felly fel chwrligwgan o amgylch ei ben.

Rwan," ebe Dic wrtho, chewch chi ddim codi ar ôl dangos yr ysbryd ene heb ddeyd y geirie yma ar f'ôl i. Ydech chi am addo?"

Nid oedd gan y dyn ddim i'w wneuthur ond addo, canys yr oedd Dic yn eistedd ar ei frest a'i ddwy law ar ei wddf.

"Rwan," ebe Dic, "dyma'r geirie,—' Mae Shonto 'mrawd,'
"Mae Shonto 'mrawd," ebe'r dyn.

"Yn deyd clwydde,'"ebe Dic.

Fe'i teimlai'r dyn ei hun yn tagu wrth geisio dywedyd y rhai hyn, ond fe deimlai hefyd fysedd Dic yn ei dagu'n fwy. O'r diwedd dywedodd,— "Yn deyd clwydde."

"A'r geirie yma hefyd," ebe Dic,—

"Rhys Llwyd."
"Rhys Llwyd," ebe'r dyn.

"Ar ei glwyd," ebe Dic.
"Ar ei glwyd," ebe'r dyn.

Bron a marw," ebe Dic.