rhwng y dyn ac yntau. Neidiodd Dic i lawr yn gyntaf, a Moses ar ei ôl, a daethant i lawr ill dau bron fel dwy bluen, o'u cymharu â'r fel y deuent i lawr pe'n neidio oddiar un o fynyddoedd y ddaear. A disgynasant ar y gwaelod yn o esmwyth ag ystyried bod y naid mor uchel.
"Lle braf ydi'r lleuad yma, wedi'r cwbwl," ebe Moses, "'does gen i ddim cymint o hiraeth am yr eneth oedd yn canu 'O! tyred yn ôl yng nghanol y neidio yma."
Daeth dyn y lleuad atynt. Dydi'r neidio mawr yma'n rhyfedd, deydwch? ebe Dic wrtho," pam yr yden ni'n gymint gwell neidiwrs yma nag ar y ddaear?"
"Gedwch imi weld be sy gennoch chi yn y'ch pocedi," ebe'r dyn. A dyna dynnu pethau allan, —y pethau rhyfeddaf mewn bod. Yng nghanol hen hoelion, a darnau llinyn, a matsis, a marbls, a thamaid o sialc glas, a botymau, a'u bath, o boced Dic, yr oedd dur tynnu pinnau wedi bachu mewn styrmant.
"Ga i weld hwn am funud?" ebe'r dyn, gan afael yn y dur, a dechreu chwarae ag ef. Gosodai bin yn ymyl y dur, a neidiai'r bin ato. Gosodai hi dipyn pellach, ond ni neidiai o'r pellter hwnnw.
"Mae gen i ddur cryfach na hwnene," ebe Moses, a thynnodd un mwy allan. Tynnai hwnnw binnau ato'i hun o gryn bellter.
"Wel," ebe'r dyn, "fel hyn yr oedd Shonto——."