Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd y bechgyn wedi glân syfrdanu. "Dy!" ebe Dic, pan gafodd o ei wynt ato, "tase'r peth yn bosib, oni fase fo'n chware da i fynd o gwmpas i fostio bydoedd?"

"A gneud tân gwyllt ohonyn nhw," ebe'r dyn. Ac nid ti ydi'r cynta, machgen i, i feddwl mai chware braf fase'r gwaith o fostio bydoedd."

"A gneud tân gwyllt ohonyn nhw," ebe'r dyn. "Ac nid ti ydi'r cynta, machgen i, i feddwl mai chware braf fase'r gwaith o fostio bydoedd."

"Gneud tân gwyllt? Sut hynny?" ebe Dic yn eiddgar.

"Fel hyn," ebe'r dyn, "mae'r ddaear hefyd yn dwad ar draws y cawodydd cerryg yma."

"Na," ebe Moses, "dyden nhw byth yn disgyn ar y ddaear."

"Yden," ebe'r dyn, "o hyd, o hyd."

"Weles i rioed 'run yn disgyn ar y ddaear," ebe Moses.

"Cyn mynd ymhellach," ebe Dic, "ydi'r pethe yma i gyd yn wir, neu ai rhai o glwydde Shonto yden nhw?"

"Mae nhw'n wir bob gair, 'rydwi'n siwr," ebe'r dyn yn hanner wylofus, "'roedd yn ddigon hawdd gweld hynny ar wyneb Shonto pan oedd o 'n eu deyd nhw. Ond pe tase tipyn bach o gelwydd rywle yn y canol i gydio pethe'n hwylus yn ei gilydd, be sy gennot ti yn erbyn y peth?"

"Dim byd," ebe Dic, "ond 'dydwi ddim yn leicio celwydd wedi'i ail dwymo. Mae o'n iawn yn ei le, os chi'ch hun sy wedi ei neud o. Ond mae o 'n colli'i flas wrth i rywun arall dreio'i law efo fo. Er mwyn i chi 'nallt i, rydwi'n arfer â