Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nhw'n taro'r awyr nes mynd ar dân, a llosgi'n lludw. A dene be ydi'r hyn a elwir yn sêr yn hedeg, y cerryg yma sy'n crwydro'r gwagle, ac yn dwad ar draws llwybyr y ddaear, a'r ddaear yn rhuthro i'r gawod gerryg. Ond nid y ddaear ei hun a darewir ganddyn nhw, ond yr awyr. Ac mor gyflym y gwnan nhw hynny nes mynd ar dân ymhell cyn cyrraedd y ddaear ei hun. A'r cwbwl a welwch chi o'r ddaear ydi'r cerryg hyn yn llosgi'n brydferth yn yr awyr, fel seren gynffon, yn hollol ddiberyg. Wedyn, mae nhw'n disgyn i'r ddaear, yn ara, yn llwch mân. Mae'r pethe fase'n lladd pobol ar y ddaear onibae am yr awyr, yn troi'n ddifyrrwch iddyn' nhw am fod ganddi hi awyr.

Am y lleuad yma, 'does dim awyr arni hi, ac felly nid oes dim i rwystro'r cerryg i'w chyrraedd. A'i chyrraedd a wnân nhw, ac mi welsoch drosoch eich hunen pa mor amal y disgynnan nhw arni hi."

Nid oedd gan y bechgyn ddim ychwaneg i'w ddywedyd. Cododd y ddau, aethant allan, a syllasant yn hir ar rimyn o oleu yn y gwagle fel lleuad newydd,—y ddaear newydd ydoedd,— ond ei fod yn fwy o gryn lawer, wrth gwrs, nag yr ymddengys y lleuad i ni. Ceisiodd y ddau ochneidio, ond ni allent ochneidio am na allent anadlu. Ac aethant yn ôl i'r ogof â'u pennau i lawr. Gofid oedd eu gofid hwy yn awr, na allai ddyfod i'r golwg mewn ochenaid, gofid a godwyd wrth i'r dyn sôn am hyfrydwch yr hen ddaear.