Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uwch eu pennau, trwy'r agen, y sêr yn disgleirio'n danbaid, yn llawer iawn tanbeidiach nag ar y ddaear, a chongl y ddaear yn disgleirio yn yr uchelder, fel lleuad newydd. Ond yr oeddynt yn rhy ddwfn i'r goleuni fod o unrhyw fantais iddynt. Ni ellwch ddychmygu am fod mewn cyflwr tebyg iddynt ond mewn breuddwyd,— yn mynd i lawr, i lawr, o hyd, heb weld rhithyn o ddim, a heb glywed y sibrwd lleiaf. Ac os digwyddent 'ollwng dwylo ei gilydd gallent fod ar goll am byth. Mewn lle tebyg i hyn ar y ddaear yr hwyl ydyw bloeddio, a chlywed ateb eich llais drosodd a throsodd drachefn. Ond nid oedd wiw iddynt weiddi yma, canys ni chlywid na siw na miw hyd yn oed oddiwrth y floedd fwyaf. Ac nid oedd ganddynt anadl i weiddi.

Teimlai'r ddau awydd wylo weithiau, ond ni allent ddywedyd eu hawydd i'w gilydd. Ac nid yw wylo'n cyrraedd ei amcan onibae bod rhywun yno i'ch gweled neu i'ch clywed. Dyna, o leiaf, oedd y fantais o wylo i Foses. Ni feddyliai ef fod wylo'n werth dim ond i ennyn cydymdeimlad. Am hynny gallodd ef ei orchfygu ei hun yn bur dda yma.

Yr oedd yn wahanol ynglŷn â Dic. Ni wylai ef am y byd, os byddai rhywun yn edrych. Fe'i teimlai ei hun yn ormod o ddyn i wneuthur peth mor fabïaidd â cholli dagrau. Bu'n anodd peidio lawer tro er pan oedd yn y lleuad, ond buasai'n well ganddo farw na gadael i ddyn y lleuad a Moses ei weld yn wylo. Eithr ni welai