Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhes hir, lefn, hon o fynyddoedd ar y chwith iddynt, a welent ar bob llaw. Ac yr oedd yr agennau tywyll ar draws y rhes fynyddoedd yn ddychrynllyd.

"A gawn ni fynd i'r agen yma?" ebe'r dyn, dan sefyll o flaen y fwyaf a'r ddyfnaf ohonynt. Daeth arswyd ar y bechgyn, ac fe deimlai hyd yn oed Dic ei ddannedd yn crynu gan oerfel wrth edrych arni, er bod y gwres crasboeth yn dal cyn gryfed ag erioed.

"Ni fum i erioed yn yr un ohonyn nhw," ebe'r dyn wedyn, "dydio ddim yn lle rywfodd i neb fynd iddyn nhw ar ei ben ei hun. Ond mae gen i syniad y down ni o hyd i rywbeth na welson ni mono fo o'r blaen yn y lleuad os awn ni i mewn."

Aeth yn ei flaen i mewn i'r agen. A rhwng arswyd a pheidio dilynwyd ef gan Ddic a Moses.

"Peidiwch ag ofni," ebe'r dyn, mae gen i syniad go dda i ble y mae'r agen yn cyfeirio." Gafaelodd yn un llaw i Ddic, a dywedodd wrth Foses am afael yn llaw arall Dic, am y byddai'n anghyffredin o dywyll yn yr agen cyn bo hir.

Ac i mewn â hwy. Yr oedd hi'n dywyll fel y fagddu, ac yn ddistaw fel y bedd. Ni welent wefusau ei gilydd yn symud bellach. Aent ymlaen ac ymlaen, mewn tywyllwch dudew a thawelwch llethol. Ni chlywent gymaint â siffrwd troed er eu bod yn troedio cerryg caled. Gallent weld