"Diar mi, mae hi'n boeth yma hefyd," ebe Dic yn y man.
"Poeth fase hi ar y ddaear hefyd," ebe'r dyn, "pe dase'r haul yn tywynnu â'i holl egni arni hi am bythefnos yn ddi—stop, heb gwmwl na pheth i'w rwystro. Ac y mae hi'n boethach yma nag y basech chi byth yn meddwl. Onibae am y fale lleuad hynny, mi fasech wedi ffrio neu rostio neu doddi ers talwm. Mae hi'n ddigon poeth yma i rostio cig a berwi dŵr, a phoethach o lawer na hynny. Ond raid i chi ddim ofni,—mae'r fale hynny'n eich cadw rhag pob peryg,—ar hyn o bryd, beth bynnag."
Ymhle y mae'r fale lleuad yn tyfu?" ebe Dic, "o achos weles i ddim byd tebyg i bren er pan ydwi yma."
"Dyden nhw ddim yn tyfu," ebe'r dyn, "fi sy'n eu gneud nhw."
"Efo be?" ebe Dic.
Fi bia'r gyfrinach honno," eb ef, "ond be feddyliech chi o'r mynyddoedd hyn?
Ar y chwith iddynt yr oedd rhes aruthrol o fynyddoedd, fel gwal fawr, wastad, yn rhedeg cyn belled ag y gallent weled, er ei bod yn ddigon clir iddynt weled i unrhyw bellter bron. Ar draws y rhes fynyddoedd, o dro i dro, yr oedd agennau mawr, tywyll, i'r ochr arall. Ac mor dywyll a dwfn oedd yr agennau hyn oni chodent fraw ar y dyn cryfaf. Mynyddoedd pigfain; cylchoedd o fynyddoedd o amgylch dyfnder mawr; a'r