"Dene 'roeddwn i'n lled-ddisgwyl ei gael," ebe'r dyn, toc, a hwythau'n ei glywed i'r dim. "Deydwch chi, rwan, fod dŵr y ddaear yn sychu. Ymhle y disgwyliech chi weld y tipyn dŵr ola cyn iddo sychu oddiar wyneb y ddaear yn llwyr?'
Wedi meddwl tipyn atebodd Dic,—" Yn y pylle isa yng ngwaelod y môr."
"Da iawn," ebe'r dyn, "ac mi fum i 'n meddwi y galle'r un peth fod yn wir am awyr, pe base awyr y ddaear yn darfod, y caech chi'r peth dwaetha ohono fo yn yr un fan. Mae pob tipyn o ddŵr oddiar wyneb y lleuad yma wedi darfod, ond y mae tipyn o wlybaniaeth ar y cerryg yma, teimlwch nhw."
Teimlodd y bechgyn hwy, ac yn wir yr oeddynt fel pe baech yn rhwbio cefn llyffant—yn llaith ac oer.
Clywent y dyn yn eu crafu â'i ewinedd. "Crafwch chithe nhw â'ch gwinedd," eb ef wrthynt, synnwn i ddim nad rhyw fath o fwswg ydi hwn, ac mai dyma'r unig beth byw ar y lleuad ond ni."
Wrth grafu teimlent fod rhywbeth yn dyfod oddiwrth y cerryg, ac yn glynu dan eu hewinedd.
"Peidiwch â'i rwbio oddiar eich dwylo," ebe'r dyn, "nes i ni fynd i le agored."
"Ac y mae'n debyg fod yr awyr fel y dŵr yn hyn o beth," eb ef wrthynt ymhen tipyn,— pan na bydd ond ychydig iawn ohono, casgl fel dŵr i'r lleoedd isa, fel y deydodd Dic. Mae'n