Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhaid ein bod ni rwan yng ngwaelod yr agen isa yn y lleuad, os nad oes ene rywbeth tebyg yng ngwaelod yr agenne erill, er na welais i rioed yr un oedd yn edrych mor ddychrynllyd â hon. Dyma waelod y cwm isa, os mynnwch chi, yn y lleuad. A chyn belled ag y gwn i, 'does dim awyr yn unman yn y lleuad ond yn y fan yma."

Balch iawn oedd y bechgyn o glywed ei gilydd yn siarad. A dechreuodd y ddau ganu tipyn. Mor falch oeddynt nes anghofio'r sŵn arall a ddeuai atynt,—sŵn ofnadwy, fel rhyfel mawr yn y pellter, a phawb yn saethu gymaint fyth. Deuai'r clecian, clecian, cyson, gwyllt, hwn o bob cyfeiriad, ac yr oedd yn llethol ar adegau.

"Peidiwch â dychryn," ebe'r dyn. "Mi ellwch fod yn dawel nad oes dim rhyfel yn y lleuad. Yr ydech chi mewn byd di-ryfel o'r diwedd. Mae eisio dau i ffraeo, a 'does dim ond un yn byw yma. Falle fod ene fydoedd erill nad oes dim ond un yn byw arnyn nhw. Dene'r unig fydoedd y gellwch chi fod yn siwr nad oes dim rhyfel ynddyn' nhw. Rydwi'n credu mod i 'n gwybod beth ydi'r sŵn. Mi weles rywbeth tebyg pan oeddwn i ar y ddaear am dro yn edrych am Shonto. Ryw nosweth mi ddaru o a finne lithro i lawr y simdde i dŷ'r hen Feti Llwyd y Bryn i roi arian daear ar yr aelwyd. Mae'r Tylwyth Teg yn gneud hynny i bobol dda. 'Roedd carreg fechan yn y tân, wedi mynd yno efo'r glo. Fedrwch chi ddeyd be ddigwyddodd iddi hi?"