Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Clecian dros y lle," ebe Dic.

"I'r dim," ebe'r dyn, dene ydi'r sŵn yma dybygswn i,—y cerryg yn clecian ar wyneb y lleuad yng ngwres yr haul. Y mae nhw felly o hyd, ond chlywch chi monyn nhw am nad oes dim awyr yn unman ond yn y fan yma, er bod eu cryndod nhw ar wyneb y lleuad o hyd. Cluda'r tir y cryndod hyd yma, neu'r sŵn os mynnwch chi, ac wedi iddo gyrraedd yma, a'i drosglwyddo i'r awyr, cluda'r awyr ef i'ch clustie chithe. Dene pam y clywn ni nhw yma. Ond gedwch i ni fynd ymlaen."

Ac oddiyno yr aethant gan siarad gymaint fyth. O dipyn i beth teneuai eu lleisiau, ac yna peidiasant, yn llwyr. Daethant wedyn i oleuni'r haul, ac i'r tawelwch. Edrychasant ar eu dwylo, ac yr oedd math ar gen dros eu cledrau, ac yn enwedig dan eu hewinedd.

"'Dyma'r unig fywyd sydd yn y lleuad, y mae'n debyg," ebe'r dyn,—" y cen ene, sy'n tyfu ar y cerryg yn nyfnder mwyaf yr agen fawr. Dene'r unig le ag awyr ynddo ar wyneb y lleuad, cyn belled ag y gwn i; a'r unig le ag unrhyw arwydd o wlybaniaeth ynddo. A garech chi fynd am dro yno'n ôl? "

Eithr ni charai'r bechgyn fynd yn ôl. Yr oedd y tywyllwch a'r sŵn mor ddychrynllyd nes teim!o ohonynt mai gormod o dasg fuasai ei wynebu eilwaith. Ac yr oedd hyd yn oed Dic ei hun yn teimlo hynny. A myfyriai'r dyn beth ydoedd