Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y griddfan mawr oedd yn yr agen, canys ni allai beidio â chredu na allai neb ond bod tebyg i ddyn riddfan felly. A beth pedfai un arall, heblaw ef, wedi dyfod i fyw i'r lleuad? A'r un hwnnw, y Llotyn Mawr!

"Mi awn ni i chwilio am yr ogo y daethon ni ohoni hi, cyn iddi dwllu," ebe'r dyn. "Mi welwch fod yr haul yn nesu at fynd i lawr, ac yr yden ni wedi cael diwrnod da,—agos i bythefnos o hyd, ac y mae hi'n oeri'n gyflym."

A thua'r ogof yr aethant. Safodd Dic a Moses a dyn y lleuad am ychydig yng ngenau'r ogof i wylio'r haul yn machludo. Gwelent ef yn cilio, cilio, o'r golwg dros y gorwel yn araf, nes diflannu o'r rhimyn olaf, ac yn hollol sydyn daeth yn nos.

"Ymhle y mae'r min nos?" ebe Dic, "dydi hi ddim yn mynd yn dywyll yn hollol sydyn ar y ddaear?"

Ond nid atebodd neb ef, canys ni welai neb ei wefusau'n symud; ac am hynny ni wyddai neb ei fod yn siarad. Nid oedd goleuni ond goleuni'r sêr, a'r rhimyn daear newydd. Cofiwch, o hyd, mai'r ddaear oedd eu lleuad hwy.