Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddwl am y peth. Ydech chi'n credu bod meddwl am ddaear newydd yn bosib i neb ond dyn o'r lleuad, sy wedi'i gweld hi drosto'i hun?"

"Naddo'n wir," ebe'r dyn yn frawychus, "fu gen i ddim rhan erioed mewn ysgrifennu na Beibil na pheth. Rydwi'n hollol ddiniwed oddiwrth hynny, beth bynnag."

"Peidiwch â chymyd atoch," ebe Dic, "gallswn i feddwl na ddylase neb fod yn rhyw ddigalon iawn am fod ganddo fo ran yn ysgrifennu'r Beibil, er na feder yr un ohonyn nhw obeithio bod yn boblogiedd iawn efo plant. O achos y peth casa ynglŷn â'r gwaith ydi fod y bobol a'i sgrifennodd o wedi rhoi llawer o drafferth heb ei eisio i blant drwy ei sgrifennu o 'n adnode, yn lle hebddyn nhw, fel rhyw lyfr arall."

Nid oedd gan y dyn ddim i'w ddywedyd bellach. A phan oedd ef yn myfyrio fel hyn troes Dic at Foses a dywedodd,—

"Gad inni fynd allan am dro."

Aethant allan, gan adael y dyn yn yr ogof, ac oedd y ddaear hanner llawn yn goleuo'r wlad. Cododd Dic ddwy garreg a phoerodd ar un i rwbio'r llall ynddi i'w llyfnhau, ond cyn gynted ag y cyffyrddodd y ddwy yn ei gilydd glynasant yn dynn fel na allai eu tynnu oddiwrth ei gilydd, er tynnu â'i holl nerth. Y poer oedd wedi eu rhewi. Gafaelodd mewn carreg arall, poerodd arni, a rhoddodd hi ar un o'r lleill, a dyna'r tair wedi glynu'n hollol dynn yn ei gilydd.