Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rywbryd teimlasant rywun yn eu hysgwyd, a neid iasant ar eu traed, ond methent â symud mwy, canys yr oeddynt cyn stiffied â choed. Wedi iddynt ddeffro'n iawn gafaelodd y dyn yn eu dwylo, ac arweiniodd hwy i enau'r ogof. O'r tuallan tywynnai'r sêr a'r ddaear,—y ddaear erbyn hyn yn hanner llawn, fel y lleuad ar ei hanner olaf.

Edrychodd Dic a Moses o'u hamgylch yn hir, yn syn, a distaw. Trodd Dic yn sydyn at ddyn

lleuad a gofynnodd,—

"Deydwch i mi, oedd gennoch chi rywbeth i'w neud ynglŷn ag ysgrifennu'r Beibil?"

"Diar annwyl, nag oedd,—be ydi Beibil, deydwch?" ebe'r dyn.

"Wyddoch chi ddim am y llyfr mae nhw'n i alw'n Feibil? "" ebe Dic,—" sut y gwyddech chi am y moch yng ngwlad y Gadareniaid 'te, ac am y Mab Afradlon a'i dad, o achos straeon o'r Beibil ydi'r rheiny?"

"Shonto ddeydodd y straeon hynny wrtha i, fel y deydes i wrthat ti o'r blaen," ebe'r dyn, "ac 'roedd o 'n deyd nad oedd dim straeon mor boblogiedd ymysg dynion â nhw."

"O!" ebe Dic, "meddwl 'roeddwn i wrth edrych ar y 'ddaear newydd' pan oedd hi gynne fel y mae lleuad newydd ar y ddaear. A chlywes i rioed amdani, pan oeddwn i gartre, ond mewn adnod,—sôn yr oedd yr adnod am 'nef newydd a a daear newydd '—ac mae'n anodd meddwl fod neb ond chi a Shonto erioed wedi