Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar y 25ain o Ebrill, 1825, sefydlwyd rhyw fath o lywodraeth amodol. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn neuadd y pentref dywedodd Robert Owen wrth y trigolion ei fod wedi prynu'r eiddo, ac wedi dod yno i roddi ei olygiadau ar gymdeithas mewn gweithrediad. Danghosodd iddynt mai amhosibl iddynt ydoedd newid ar unwaith o gyfundrefn gymdeithasol ddireswm, i un resymol, heb ryw gymaint o baratoad. Am hynny, rhaid ydoedd myned hanner y ffordd i ddechreu. Byddai'r tair blynedd cyntaf yn gyfnod rhagbaratoawl, ac am y cyfnod hwn, enw y sefydliad fyddai "Cymdeithas Ragbaratoawl Harmony Newydd." Yr oedd y llywodraeth i fod yn nwylaw pwyllgor o'r trigolion. Yr egwyddor fawr y dygid y gymdeithas ymlaen arni ydoedd fod pawb i ystyried eu heiddo fel rhan o'r eiddo cyffredin. Yr oedd rhyddid i unrhyw berson pwy bynnag ymneilltuo pan y dewisai, a dychwelid ei eiddo neu ei werth iddo.