chadwyd at y cynllun gwreiddiol. Bu un Paul Brown am flwyddyn yn y lle, a dywed na welodd ddim byd tebyg i eiddo cyffredin yno. Yn ddiau, y camgymeriad mawr ydoedd cychwyn y lle ar y dechreu. Yr oedd amgylchiadau y byd newydd yn hollol wahanol i eiddo yr hen. Yr ail gamgymeriad ydoedd derbyn pawb i mewn, heb ymarfer doethineb a gwneyd ymholiadau parthed y bobl ddeuent yno. Dyna farn mab hynaf Owen.[1] Y canlyniad oedd "na fu yno weithgarwch anhunanol, nac ymddiriedaeth y naill yn y llall, na phrofiad ymarferol, na gweithrediad unedig oherwydd diffyg undeb mewn barn," ac ar y creigiau hyn yr aeth y llong gymdeithasol yn ddrylliau. Ac fel y dywed John Pratt yn yr "Oneida Circular,"—"Yr oedd atdyniadau mewnol y gymdeithas yn rhy wan i ddal yn erbyn atdyniadau y byd oddiallan." Dywedodd Owen ei hun mewn blynyddoedd wedi hynny ei fod wedi prynu'r tir ar y dealltwriaeth fod y Rappiaid yn aros yno hyd nes y byddai'r trigolion newydd wedi dysgu oddiwrthynt eu trefn a'u cynllun-
- ↑ Threading my Way, p. 228.