oedd y cwmni'n ymryddhau o ddarparu moddion i ddysgu dawnsio, ac ailtudiwyd pob cerddoriaeth oddigerth canu emynnau. Trefnwyd darlithiau gwyddonol i'r gweithwyr; ac re wnaed cyfnewidiad yng ngwisg y trigolion, sef newid y kilts am lodrau. Ordeiniwyd hefyd ddarllen cyson o'r Ysgrythyr, a moddion gras unwaith yn wythnosol.
Felly y bu pethau am ddwy flynedd. Wedi hynny, caethiwyd Robert Owen ymhellach. Gorfuwyd iddo dderbyn llai o ymwelwyr i'r lle, gan eu bod yn rhwystr i'r gwaith. Gwnaethpwyd cyfnewidiad yn yr oriau gweithio. Penderfynwyd adeiladu ychwaneg o dai, i sicrhau cyflenwad helaethach o ddwfr, i ddarparu moddion ymolchi rhagorach, i sefydlu cartref i'r hen a'r methedig, a chychwyn eto fanc cynilo. [1]
Nid oedd telerau'r cytundeb hwn wrth fodd Owen, a gwnaeth ei feddwl i fyny i neilltuo o'i swydd a rhoddi ei ran yn y lle i fyny. Cytunodd i aros, modd bynnag, hyd nes y delai un Charles Walker yn gymwys i reoli'r gwaith.
- ↑ Pa beth a ddaeth o'r banc cynilo cyntaf nis gwn