Yn y cyfamser yr oedd Robert Owen ynghanol helynt New Harmony. Pan aeth i'r Talaethau gyntaf, gadawodd ei fab Robert Dale i ofalu am Lanark Newydd; ond pan yr aeth yno yr ail waith, aeth Robert Dale gydag ef, yn Ionawr 1826. Ar ol i Harmony Newydd ddod i ben, dychwelodd Owen i Brydain, ac ymneillduodd o New Lanark yn 1829. Buasai hyn wedi digwydd cyn y darfu oni bai fod Owen yn perchen y rhan fwyaf o'r cyfrannau yn y gwaith; ac nid gorchwyl bychan ydoedd talu iddo am danynt. Ac felly y torrodd Owen ei gysylltiad â Lanark Newydd.
Ni ddarfu i'r lle ddisgyn ar unwaith o'i wynfyd; eithr parhaodd yn well ei amgylchiadau, am amser, na'r un dref arall. Serch mai gorchwyl cyntaf y perchenogion wedi cael gwared o Owen ydoedd gostwng cyflogau, a chodi'r oriau, bu gair da i Lanark Newydd am flynyddoedd lawer. Gwnaethpwyd peth cyfnewidiad yn yr addysg a roddid yn yr ysgolion, ac yn ei anerchiad i Gymdeithasau Ysgolion Babanod yn 1830, dywed fod yr ysgol fabanod yn Lanark Newydd wedi peidio a bod fel ysgol resymol, er fod yr ysgolion