America traddododd yn New Orleans ddarlithiau ar gamsyniadau crefyddol. Yr oedd adroddiadau camarweiniol o'r cyfarfodydd hyn yn ymddangos yn y newyddiaduron, a daeth Owen o hyd i'r ffaith mai gweinidogion y lle oedd awdwyr yr adroddiadau hyn. Mewn canlyniad heriodd hwynt i'w gyfarfod mewn dadl, a rhoddodd i lawr ddeuddeg o osodiadau fel pynciau dadl. Ni dderbyniwyd yr herr; ond tra y digwyddasai hyn yn New Orleans, yr oedd Dr. Underhill, un o ddigyblion Owen, wedi herio y Parch. Alexander Campbell Bethany, Virginia, i ddadl. Gwrthododd Campbell gyfarfod Underhill, ond cynygiai gyfarfod Owen ei hun, yn Cincinnati. Wedi ymdrafod y peth, cytunodd y ddau i gyfarfod yn y ddinas honno yn yr Ebrill dilynol. Ac. yn awr, wedi ymadael o Mexico, cyfeiria Owen ei gamrau i Cincinnati i gyflawni ei addewid. Ar y daith arhosodd bum niwrnod yn Harmony Newydd. Dechreuodd y ddadl ar y 13eg o Ebrill, a pharhaodd am wythnos. Cynhelid dau eisteddiad mewn diwrnod, a llywyddid y cyfarfodydd gan saith o gymedrolwyr. Cymerwyd i lawr yr areithiau mewn llaw ferr gan wr o'r enw Sims, yr hwn a dderbyniodd gan punt am ei lafur. Cyhoeddwyd
Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/41
Gwedd