Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y cyfan mewn cyfrol fawr a chedwir y llawysgrif wreiddiol yn Llyfrgell Cincinnati.[1]

O'r braidd y mae yn werth dadansoddi y pentwr anelwig o fater gynhwysir yn y gyfrol. Yr oedd Owen byth a beunydd yn crwydro oddiwrth ei destyn; a phrotestiodd Campbell yn erbyn iddo egluro ei "ddeddfau natur" am yr unfed waith ar ddeg. Ar y llaw arall yr oedd Campbell yn hynod alluog i guddio ei feddwl mewn llifeiriant o eiriau. Ni pherthyn i'r ddadl hon unrhyw arbenigrwydd na pherthyn i bob dadl gyhoeddus o'r un natur.

Ar y cyfan dygwyd hi ymlaen yn foneddigaidd a moesgar o'r ddwy ochr; ac fel y digwydda'n gyffredin ar y cyfryw achlysuron, hawliai pob un o'r ddwy blaid yr oruchafieth.

Aeth Owen o Cincinnati i Wahington i geisio trefnu'r ffordd i ddwyn yr Unol Dalaethau a Lloegr i gyfathrach agosach. Yr oedd Van Buren, un o aelodau y Llywodraeth, eisoes wedi clywed am Owen gan

  1. Gwerthodd Owen ei gyfran o'r elw o gyhoeddi y llyfr i Campbell. Aeth drwy ddau argraffiad, Bethany, Va. 1829, Llundain 1839. Cynhwysa y cyfrolau atodiadau gan y ddau ddadleuwr, a chymer Owen y cyfle, fel arfer, i son am ei gynllun i wella amgylchiadau a chymeriadau dynion.