meddai Owen, "yn aml yn well na gwerin-lywodraeth. Ac mor bell ag oedd a fynno cydweithrediad â hynny, nid oedd o fawr pwys pa un ai arglwyddiaethol ynte gwerinol y llywodraeth"—arwydd eglur nad oedd Owen ddigon o weledydd, serch mor bell y gwelai, i roddi'r gwir esboniad ar symudiad a anwyd o'i syniadau ef ei hun. Y mae cydweithrediad yn sicr o esgor ar werin-lywodraeth. Ni chafodd yr hyn ddywedodd Owen basio yn ddisylw. Yr oedd Joseph Hume, y gwleidyddwr a'r hanesydd yno—a dadleuodd yn gryf yn erbyn athrawiaeth difaterwch gwleidyddol.
Eithr y pwysicaf peth yn y gynhadledd hon ydoedd penderfyniad a gynygiwyd gan Robert Owen ei hun, ac a basiwyd, sef,
"Oherwydd fod y byd cydweithiol yn cynnwys personau o bob enwad crefyddol, a phob plaid wleidyddol, y mae y cyfarfod hwn yn unfrydol yn penderfynu nad ydyw cydweithredwyr fel y cyfryw i gael eu cysylltu ag unrhyw ddaliadau crefyddol neu anghrefyddol, gwleidyddol o gwbl, eiddo Mr. Owen na neb dyn arall."
Y mae yn angenrheidiol i ni gofio bob amser, na ddeallodd Robert Owen wir ystyr y symudiad cydweithiol; a chyfrifai