Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef yn is-wasanaethgar i'r gwaith o sefydlu cymuniaeth ar y tir. Y mae yn debyg hefyd mai hyn ydoedd meddwl y lliaws o'r cydweithredwyr boreuol. Yn y gynhadledd hon, dywedodd Owen fod tir i'w gael, yn cynnwys pedwar cant ar ddeg o erwau, yn Aylesbury, swydd Hertford; ac anfonwyd ef, ynghyd a William Thomson, un o brif arwyr y symudiad, a Bromley,[1] i weled ac ymholi mewn perthynas i'r lle. Anfonwyd hefyd ddirprwyaeth at Morgan, aelod o'r Stock Exchange, i geisio benthyca drwyddo y swm o chwarter miliwn o bunnau. Pa beth fu canlyniad hyn nis gwn.

Hwn ydoedd y cyfnod arwrol yn hanes y symudiad cydweithredol. Daeth dyddiau tywyll arno,—a chyfaddef y gwirionedd,—i fesur drwy y prif arwr ei hun. Pa fodd y goddiweddwyd y symudiad gan gyfnod o aflwyddiant cawn weled yn y bennod nesaf.

Yr oedd brwdfrydedd mawr yn bod drwy yr holl wlad yr oedd y symudiad wedi cydio yn y bobl. "Ni welwyd yn Lloegr, gynt na chwedi, gynifer o gylchgronau cydweithiol ag a welwyd yn y dyddiau hynny."[2]

  1. Daw Bromley dan sylw yn y bennod nesaf
  2. Holyoake, Hist. Co-op., i., 129.