Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dref, fel y derbyniai 250 o fasnachwyr y nodau llafur yn lle arian. Yr oedd hyd yn oed y chwareudai yn eu derbyn fel tal am fynediad i mewn iddynt.

Wele ffurf y nodau,


EQUITABLE LABOUR EXCHANGE.

Gray's Inn Road.
Est. 1832.

First Branch :
Blackfriars Rd.
To the Storekeeper of the Exchange,
No..., 1st. Dec., 1832.

Deliver to the bearer, Exchange
Stores, to the value of TWO HOURS.

By order of
ROBERT OWEN, Governor.
S. AUSTIN, Director.
............Secretary.

TWO HOURS


Y pryd hwn, gwnai y Gyfnewidfa elw o ugain punt yn yr wythnos.

Yn Mai 1833 symudodd i le helaethach yn Charlotte Street, Rathbone Place. Yr oedd yma ystafell fawr i gynnwys deuddeg mil o bobl ar eu traed, neu tua tair mil a hanner yn eistedd.