Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni chyfyngwyd y mudiad newydd hwn i Lundain nag i Robert Owen. Yng Ngorffennaf, 1833, mewn canlyniad i ymweliad Owen, cychwynwyd cyfnewidfa yn Birmingham, a llwyddodd hon hefyd yn fawr. Mewn un wythnos cyflwynwyd 1,600 o nodau am un awr, ac yr oedd yr elw yn £30. Ar gyfalaf o £450 bu elw o £262 yn y chwarter cyntaf. Cychwynwyd cyfnewidfa gan King yn y Gothic Hall, New Street, Llundain.[1] Yr oedd Owen yn elyniaethus i hon am nad oedd iddi gyfalaf, a thrwy hynny sicrwydd digonol i'w chwsmeriaid. Cychwynodd King gylchgrawn—"The Gazette of Labour Exchanges;" ac ymddengys fod nifer y cyfnewidfeydd yn Llundain yn ddeg ar hugain.

Yr oedd anturiaeth Robert Owen yn llwyddo cymaint fel y bu yn ofynol ailagor y lle y dechreuwyd ynddo yn Gray's Inn Road, fel nodachfa ychwanegol. Yr hwn.

  1. ↑ Ai Dr. King o Brighton ydoedd hwn, nid wyf sicr. Y mae yn ymddangos iddo impio'r syniad o nodau cyffelyb ar y trafnidiaeth cydweithiol oedd yn myned ymlaen yn Llundain yn 1827; ac yn Brighton, yr oedd nodau llafur yn bod yn Hydref, 1827. Ar y cyfan yr wyf yn tueddu i gredu mai person arall ydoedd y King