Tudalen:Roosevelt.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Modd bynnag, cafodd Roosevelt ergydion pur gas yn etholiad 1936, oherwydd er iddo gael mwyafrif gwerinol da, yr oedd llawer o'r rhai a ddychwelwyd yn erbyn y Fargen Newydd. Nid oeddynt uwchlaw elwa ar gyd-aelodaeth ym mlaid yr Arlywydd a bod yn gwbl barod i'w wrthwynebu wedi'r etholiad. Un o anawsterau gwleidyddiaeth America yw nad yw'r gwahaniaeth rhwng y ddwy blaid yn glir, e.e., bod y naill ar y Dde a'r llall ar y Chwith. Hyd yn ddiweddar, cyfrifai daearyddiaeth ac ardal yn fwy nag egwyddorion, ac yr oedd gan y ddwy blaid eu hadran Dde a Chwith. Caed aml i Wladwriaethwr rhyddfrydig yn llawer mwy rhyddfrydig na'r Gwerinwr ceidwadol. Rhwystr mawr ar ffordd Roosevelt a fu'r ffaith iddo geisio cymhwyso polisi cenedlaethol, gan ddibynnu ar gymorth gwleidyddol gwŷr na feddyliodd erioed o'r blaen yn nhermau 'cenedl' a 'dosbarth', ond yn hytrach yn nhermau'r Misisipi, peithdir y Gorllewin, etc.

Ni laesodd yr ymdrech rhwng Roosevelt a'r Gynhadledd am funud, fel y dangoswyd pan gollodd ar fater Gwahardd Allforio. Gwir iddynt ail ystyried y dyfarniad, ond gwelir sut y gall y fath ddigwyddiad osod rhwystrau ar ffordd pob polisi, yn enwedig wrth ddelio â materion tramor lle y gall cyflymdra olygu popeth. Heddiw gwelir Roosevelt ar ei gyfyng gyngor pa un a wyneba etholiad am y trydydd tro ai peidio-safle y gwrthododd Washington ei wynebu—a thystia hyn gryfed y pery nifer ei ddilynwyr drwy'r wlad. Nid ei bersonoliaeth yn unig a gyfrif am hyn, ond gwelir fod y Fargen Newydd yn wahanol i raglenni'r hen bleidiau, a'i fod yn simbol o'r cyfnewidiadau sylfaenol a ddigwyddodd ym mywyd America yn ystod y blynyddoedd o flaen ac wedi