Tudalen:Roosevelt.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Gynhadledd i ben ei thymor. Ni all yr Arlywydd gychwyn deddfwriaeth. Gall atal unrhyw fesur, ond gall mwyafrif o ddwy ran o dair yn y ddau dŷ ei basio. Pa beth bynnag a ddigwydd, y mae'n rhaid i'r Arlywydd atal yr holl fesur. Ni all docio rhai adrannau a chadw'r lleill. Sut felly y gall. yr Arlywydd drafod y Gynhadledd? Yn rhannol trwy ddylanwad personoliaeth ac yn rhannol trwy benodiadau doeth. Am y ddwy flynedd gyntaf, gall ddibynnu ar Gynhadledd gyfeillgar, oherwydd araf y daw'r trai ar frwdfrydedd yr etholiad, ac effro yw'r disgwyliadau am ffafrau oddi ar ei law. Ynghanol y tymor, a thrwy etholiadau, newidir ansawdd y Gynhadledd; sycha ffynhonell y ffafrau a chyfyd drain ar ei lwybrau. Cydnebydd pawb i Roosevelt drafod y Gynhadledd yn ystod ei dymor cyntaf gyda medrusrwydd mawr. Diwygiodd ei Brif Bost Feistr, Farley, ei adran, gan ei throi'n 'beiriant effeithiol a golygodd deddfwriaeth y Fargen Newydd (New Deal) liaws o benodiadau cyfunol newydd oedd o'r fantais fwyaf iddo. Talodd sylw mawr i'r gwaith o gadarnhau ei ddilynwyr yn y wlad gan wybod yr effeithiai hyn ar y Gynhadledd. Gafaelodd ei arwyddeiriau, 'y Fargen Newydd' 'y Gŵr a Anghofiwyd', yn nychymyg dynion cyffredin, ac, fel yr Arlywydd cyntaf i feistroli techneg y Radio, gwnaeth ddefnydd llawn o hyn yn ei 'sgyrsiau'r aelwyd a'r genedl.' Digwyddai'r awdur fod yn Efrog Newydd ar ddiwrnod seremoni cyflwyno Roosevelt i'r Arlywyddiaeth, ac erys atgof byw am ddylanwad ei anerchiad di-gythrwfl, calonnog, hyderus ar dyrfaoedd a syrthiasai i afael un o'r methiannau mwyaf a fu yn hanes banciau unrhyw wlad.