Tudalen:Roosevelt.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sydd ymhell islaw gradd y Cabinet. Pan newidio llywodraeth, newidir nid yn unig aelodau'r Cabinet ond llysgenhadon a phrif swyddogion y Gwasanaeth Sifil. Ar ffyn isaf ysgol y Gwasanaeth Sifil cydnabyddir egwyddor yr alwedigaeth a'r duedd ydyw ei mabwysiadu ar ryngau uchaf yr ysgol hefyd. Ond tra phery'r berthynas bresennol rhwng yr Arlywydd a'r Gynhadledd y mae'n bur annhebyg y gwelir ymwrthod ag ystyriaethau gwleidyddol wrth benodi i'r swyddi uchaf. Cyn belled a bod a fynno cymhwyso polisi, y mae'n naturiol i'r Arlywydd ddymuno sicrhau cydweithwyr a fo'n frwdfrydig o'i blaid ac yn deyrngar iddo.

Wrth ddewis ei Gabinet, chwilia'r Arlywydd yn fynych y tuallan i gylch aelodau'r Gynhadledd. Y mae gan y wlad yr hyn a elwir yn rheol yr ardal.' Golyga hyn na all llawer o'r dynion galluocaf mewn bywyd cyhoeddus gael eu hethol i sedd os digwydd iddynt fod yn y lleiafrif yno, oherwydd ni chaniateir iddynt fynd i le arall. Pwysleisio rheol gyffredinol a ddarfu Roosevelt felly, pan greodd ei Dryst Ymenydd' (Brains Trust) yn nyddiau cynnar ei weinyddiaeth. Chwiliodd am yr ymenydd yng nghynteddau'r prifysgolion yn hytrach nag ar lwyfannau gwleidyddiaeth. Gwnaeth hynny'n bur aml a phwysleisio felly bwysigrwydd yr elfen bersonol. Ei gabinet ef ydyw, a'i weinyddiaeth ef i gymhwyso'r hyn a ystyria'n bolisi arbennig iddo'i hun.

Pan eilw'r rhaglen am ddeddfau newydd y mae'n rhaid i'r Arlywydd droi at y Gynhadledd. Cyfyngedig yw ei alluoedd yn y cylch hwn. Nid efe ydyw Arweinydd y Tŷ, ac os digwydd i'r Gynhadledd fod yn elyniaethus, ni all fygwth etholiad arnynt. Pa beth bynnag a ddigwydd, rhed