Tudalen:Roosevelt.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

naill ffordd na'r llall, ond oherwydd teimlo o rhyw gynrychiolydd o'r Deheudir pell fod gormod o'r cyfraniad at Afonydd a Phorthladdoedd yn mynd i'r trefydd ar fordir Lloegr Newydd. Gall y cynrychiolydd hwn gasglu ynghyd nifer o gynrychiolwyr o gyffelyb deimlad a phenderfynu 'dysgu gwers i'r Arlywydd,' er y gall hyn fod yn groes i fudd y wlad yn gyffredinol ac yn gryn rwystr i gynnydd gwerthfawr yn y rhaglen weinyddu.

Yn y geiriau olaf hyn gorwedd un allwedd i ddirgelwch gwledyddiaeth America. Fel rheol y mae rhaglenni etholiadau yn ogoneddus o amhendant. Unwaith y byddo'r etholiad drosodd, ymsefydla'r pleidiau wrth eu hen waith, sef, a defnyddio'r idiom lafar, bargaining, lobbying and log-rolling. Diddordebau cyffredin a chydbwysedd grym, yn hytrach na chefnogaeth i raglen ddeddfwriaethol gyffredin ydyw egwyddor unoliaeth o fewn y pleidiau. Gadewir y gwaith o gynhyrchu'r rhaglen hon i'r Arlywydd gyda chymorth ei gabinet, a rhaid iddo berswadio, swcro a bygwth y Gynhadledd i'w derbyn.

3. YR ARLYWYDD A'I GABINET

Y mae galluoedd yr Arlywydd ar un olwg yn ehangach ac eto ar olwg arall yn gyfyngach nag eiddo Prif Weinidog. O fewn cylch y gyfundrefn gyfreithiol y maent yn ehangach oherwydd yr awdurdod uniongyrchol mwy sydd ganddo dros bob gweinyddu, gan gynnwys penodiad y dynion a gymhwysa ei bolisi. Rhaid wrth gydsyniad y Senedd cyn penodi i rai swyddi, ond gall yr Arlywydd benodi ei ddynion ei hun i lu o swyddi gweinyddol eraill, gan gynnwys llawer