Tudalen:Roosevelt.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

phob un ohonynt â rhyddid i wneuthur fwy neu lai yn ôl eu dewis.

Pe byddai gwella cyflwr deddfwriaeth gyffredinol yn brif amcan y Gynhadledd byddai'r sefyllfa yn wir dorcalonnus. Ond nid dyna berwyl y mwyafrif o'r aelodau. Daw'r rhan fwyaf ohonynt i Washington i sicrhau gymaint ag a allant i'w Talaith. I hyn yr etholir hwy, ac ar eu llwyddiant neu eu methiant mewn sicrhau cynorthwy a gwelliannau cyhoeddus y dibynna eu siawns am ail-etholiad gan mwyaf. Er dyddiau rhannu'r tiroedd rhydd, edrychir ar y llywodraeth gyfunol fel perchennog y cornucopia cenedlaethol. Ar wahân i gynorthwy nid oes gan y rhai sydd mewn awdurdod nemor ddim i'w gynnig i'r aelodau; o ganlyniad y mae disgyblaeth bleidiol a'r 'faril borc' yn perthyn yn agos iawn i'w gilydd.

Os metha aelod a bodloni pleidleiswyr un dalaith, ni all chwilio am lwyddiant mewn un arall. Rheolir etholiadau America yn gaeth gan 'reol lleoliad' a glyma ddyn i lawr i'w dalaith ei hun a hyd yn oed i'w ardal gynhadleddol ei hun. Nid oes 'seddau diogel' i'w rhoi i'r aelod haeddiannol ond anffodus a fethodd gael ei ail-ethol. Y mae dymuniadau ei bleidleiswyr ei hun, gan hynny, yn holl-bwysig i'r aelod cyffredin, a'u buddiannau hwy yw ei ddiddordeb cyntaf—ac olaf.

Arwain y llyffetheiriau lleol hyn i ddylanwadau ardalol mewn gwleidyddiaeth a gorfodir yr Arlywydd i lywio cwrs gofalus rhwng gwahanol hawliau cystadleuol. Y mae'n bosibl i un o'i fesurau gwerthfawrocaf fynd yn llong-ddrylliad nid oherwydd i'r Tŷ ei anghymeradwyo, nac yn wir oherwydd i'r Tŷ deimlo nemor ddim ynghylch y mater y