Tudalen:Roosevelt.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr Arlywydd a'r Ysgrifennydd Gwladol gael ei gadarnhau gan fwyafrif o ddwy ran o dair o'r Senedd. Yn rhinwedd eu didoliad llwyr oddiwrth y gallu gweithredol y mae'r ddau Dŷ yn rhydd oddiwrth unrhyw gyfrifoldeb dros weithrediadau'r llywodraeth, ac ni feddant yr ataliad gwerthfawr a gwyd o sylweddoli y dichon iddynt ryw ddydd orfod amddiffyn eu geiriau eu hunain.

Y gwahaniaeth mwyaf tarawiadol wrth gwrs rhwng sistem seneddol America ag eiddo Lloegr yw'r ffaith nad yw gweinidogion y cabinet yn America—oherwydd y didoliad y cyfeiriwyd ato eisioes yn eistedd yn yr un o'r ddau Dŷ, ac ni ddeilliant o angenrheidrwydd o'r Gynhadledd o gwbl. Ni all yr Arlywydd gynnig deddfwriaeth. Rhaid iddo gael arweinydd y blaid i wneuthur hynny drosto. Eithr unwaith yr â deddf drwodd ni fedd y Gynhadledd unrhyw afael arni wedi hyn. Ni ddaw gweinidogion y cabinet i'r Gynhadledd i'w holi nac i egluro'u polisi, er y dichon iddynt yn nes ymlaen gael eu galw i'w amddiffyn, post facto, o flaen pwyllgor o'r Senedd. Gall yr Arlywydd ddod yn bersonol i ddarllen ei anerchiad, eithr ffurf yn unig ydyw hyn ac ni chymer unrhyw ran bellach yn y gweithrediadau.

Gellir dychmygu teimladau yr aelod seneddol cyffredin pe byddai'n rhaid iddo weithio o dan amodau'r Gynhadledd. Byddai ei ymdeimlad o oferedd ei waith yn fwy nag ydyw eisioes pe byddai'r cabinet cyfan y tuallan i'w ddylanwad, pe gwyddai y gallai gwaith ar fesur suddo i ddiddymdra oherwydd rhagfarn affwysol un barnwr oedrannus, a phe ni ellid trafod y rhan fwyaf o'i ddiddordebau gwleidyddol gan y llywodraeth ganol o gwbl oddieithr trwy ystryw, eithr eu gadael yn nwylo 48 o gorffolaethau deddfwriaethol isradd a