Tudalen:Roosevelt.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pryd, gyda chanlyniadau anochel. Enghraifft enwog o hyn ydyw'r cyfnod o 1874-1896 pryd nad oedd tair adran y llywodraeth o dan reolaeth yr unrhyw blaid am fwy na phedair blynedd o'r ddwy flynedd a'r hugain. Diddymwyd o'r diwedd y 'lame duck sessions,' pan barhai'r cynrychiolwyr a orchfygwyd yn Nhachwedd i ddeddfwriaethu tan fis Mawrth. Fe olyga'r etholiadau mynych, fodd bynnag, a gynhelir ar adegau penodedig yn annibynnol ar gyflwr amgylchiadau cyhoeddus, nad yw meddyliau cynadleddwyr ar fusnes cyhoeddus am un flynedd o bob pedair, neu am gyfnod o dri i chwe mis rhwng y ddwy flynedd. Ffawd yr etholiadau sydd ar ddyfod ydyw prif destun eu diddordeb.

Y mae cyfnod eisteddiad y Tŷ yn ystod y ddwy flynedd mor fyrr, a'i ddylanwad ar y gallu gweithredol, fel y gwelir, mor fychan, fel nad yw nemor fwy na pheiriant deddfwriaethu heb fawr urddas. Y mae'r Senedd yn llawer mwy dylanwadol. Disgyblir hi yn llai ar linellau pleidiol; y mae pob Seneddwr yn ei ystyried ei hun yn fath ar Gynrychiolydd o'i Dalaith ei hun. Y mae cymaint o batroniaeth ei dalaith yn ei ddwylo yn rhinwedd ei swydd, fel na ddibynna ar ei arweinwyr am ffafrau. Nid anesmwythir arno gan etholiadau a gall pwyllgorau'r Senedd archwilio gweithrediadau'r llywodraeth wrth eu hamdden heb gael eu didrwyddedu fel y digwydd yn hanes pwyllgorau'r Tŷ bron cyn iddynt. ddechrau ar eu gwaith.

Gall Seneddwr fynegi ei feddwl yn weddol rydd ar faterion cartrefol ac yn fwy rhydd fyth ar faterion tramor, ac yn wir fe wna hynny. Os anghytuna'r Senedd a'r Arlywydd gall ei fychanu trwy wrthod cadarnhau ei benodiadau ar gyfer swyddi, a rhaid yw i bob cytundeb tramor a sylweddolir gan