Tudalen:Roosevelt.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yddiaeth, y mae'r Prif Lys yn dylanwadu yn andwyol ar ansawdd deddfwriaeth. Nid oes onid y diwygiwr mwyaf dygn a orfoda fesur cymhleth drwy'r Gynhadledd ac yntau. yn gwybod o'r gorau y gall gael ei anghyfreithloni yn ddi-rybudd yn ddiweddarach. Ar y llaw arall, gall yr aelodau llai cyfrifol swcro unrhyw fesur gan wybod yn ddiogel mai swydd y Prif Lys ydyw gosod pethau mewn trefn wedi hynny.

2. Y GYNHADLEDD.

Credir yn gyffredin fod angen egluro y cyfansoddiad ysgrifenedig a'r Prif Lys. Ar y llaw arall, ymddengys y Gynhadledd yn beth mwy cynefin inni, a thueddwn i feddwl am Dŷ'r Cynrychiolwyr fel y Tŷ Cyffredin a'r Senedd fel Tŷ'r Arglwyddi. Y mae hwn yn olygiad cywir ar y cyfan, eithr ag enwi un gwahaniaeth yn unig, y mae'r Senedd yn llawer mwy dylanwadol ar y rhan fwyaf o faterion na Thŷ'r Cynrychiolwyr. Y mae'r safle yn Lloegr o chwith yn hollol. Fe gynnwys y Tŷ 435 o aelodau a etholwyd o bob talaith ar sail poblogaeth. Fe'i hetholir am ddwy flynedd yn unig. Golyga hyn fod yn rhaid i bob Arlywydd gymryd cyfrif o etholiad hanner-tymor-hanner ffordd drwy ei dymor ef ei hun yn ei swydd. Ni fedd y Senedd namyn 96 o aelodau, dau o bob talaith. Etholir hwy am chwe mlynedd, traean ohonynt i ymneilltuo bob dwy flynedd. Ni thorrir y senedd gyfan i fyny byth. Rhydd hyn ynddo ei hun iddi nerth a gyfyd o barhad-peth na fedd y Tŷ.

Golyga'r etholiadau ysbeidiol hyn y gellir rheoli'r Tŷ, y Senedd a'r Arlywyddiaeth gan bleidiau gwahanol ar yr un