Tudalen:Roosevelt.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddehonglodd deimlad y wlad a gorchfygwyd ef ar un o'i fesurau mwyaf amhoblogaidd. Y mae i'r Prif Lys gysegredigrwydd arbennig ym meddwl. yr Americaniaid, yn rhannol am nad yw yn atebol i neb ac yn rhannol oherwydd y gwyddys mai barnwyr y Prif Lys yw'r unig rai a ymgeidw rhag llwgr-ymddygiad gwleidyddiaeth yn gyffredinol.

Rhoes marwolaethau ac ymddeoliadau fwyafrif yn y Prif Lys i Roosevelt bellach. Y mae hyn yn bwysig iawn oherwydd bod dyfarniadau'r Prif Lys, er yn gyfreithiol mewn ffurf yn wleidyddol o ran cynnwys yn fynych. Yn wir disgrifiwyd y Llys fel trydydd tŷ deddfroddol y wlad, heb unrhyw allu i gychwyn deddfwriaeth, eithr yn meddu gallu terfynol i'w gomedd. Dangosodd yr enghreifftiau a ddyfynwyd eisoes mor eang ac anneffiniol ydyw rhai o frawddegau allweddol Cyfansoddiad. Y mae'n amlwg nad pwynt o gyfraith ydyw dehongli 'priod gwrs,' 'budd cyffredinol,' 'bywyd, rhyddid ac eiddo, ond mater o athroniaeth wleidyddol, a gall hwn fod yn oleuedig neu yn adweithiol yn ôl argyhoeddiadau'r barnwyr ar y pryd.

Yn nhymor cyntaf Arlywyddiaeth Roosevelt yr oedd pum barnwr allan o'r naw yn Wladwriaethol (Republican) eu tuedd, ac un yn ddiduedd. Rhwng Mai 1935 a Mehefin 1936 gwrthododd y Prif Lys Fesur Addasiad Amaethyddiaeth a Gweinyddiad Adferiad Cenedlaethol, y ddwy brif ddeddf a basiwyd dros amaethyddiaeth a diwydiant, a thair neu bedair o ddeddfau eraill yn dwyn perthynas a'r rheilffyrdd, y diwydiant glo, a dyledion amaethyddol. Nid yw'n rhyfedd i'r Arlywydd anesmwytho. Yr oedd bwriadau tadau'r werin-wladwriaeth yn ddiau yn rhagorol, ond ar wahan i rwystro datblygiad mewn gwein-