Tudalen:Roosevelt.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wahan i briod gwrs y gyfraith.' Y mae hyn yn rhwyster i ddeddfwriaeth daleithiol yn ogystal a deddfwriaeth gyfunol gan mai hawdd yw i lys di-gydymdeimlad ddehongli'r rheol yn gaeth. Ychydig yn ôl, yn Nhalaith Efrog Newydd gwrthodwyd Mesur Lleiafswm Cyflog i ferched yn gweithio mewn golchdai, ar y tir ei fod yn troseddu yn erbyn rhyddid. Y mae'n amlwg na chydymffurfiai'r ddeddf a'r dirgelwch cyfreithiol a adwaenir fel 'priod gwrs y gyfraith.' Ar y llaw arall yn yr un dalaith pleidiwyd deddf yn rheoli prisiau llaeth, er y gellid yn hawdd ddehongli hyn fel 'amddifadu gŵr o'i eiddo. Os ymddengys fel pe cynhwysai deddfwriaeth Americanaidd nifer o ddeddfau carbwl, rhaid cofio nad oes modd gwybod ymlaen llaw beth fydd rheolau'r gêm pan ddaw'r mater i sylw y Prif Lys. Anghyfreithlonodd y Prif Lys gymaint o raglen Roosevelt fel mai gwerthfawr a fyddai astudio swyddogaeth y sefydliad rhyfedd hwn ymhellach. Fel y dywedodd awdur Americanaidd, 'Y mae'n gwbl anealladwy i'r rhan fwyaf o dramorwyr y gall llys o naw o ddynion, trwy fwyafrif o un yn unig, anghyfreithloni mesur a effeithia ar fudd y genedl gyfan, a basiwyd gan gynulliad deddfwriaethol cynrychiolaethol, ac a arwyddwyd gan yr Arlywydd fel prif ymddiriedolwr Unol Daleithiau.'

Apwyntir y Prif Farnwr (Chief Justice) a'r wyth barnwr cysylltiol dros fywyd gan yr Arlywydd trwy gymeradwyaeth y Senedd. Ni nodir y nifer arbennig hwn yn y cyfansoddiad, a phe meddai Arlywydd ddigon o gefnogaeth yn y Senedd gallai greu barnwyr nes cael mwyafrif o blaid ei bolisi, yn union fel y gellir creu arglwyddi yn Lloegr. Ceisiodd Roosevelt fodd bynnag ymyrryd a'r Llys trwy bennu 70 fel oed ymneilltuo, eithr am unwaith yn ei yrfa cam-