Tudalen:Roosevelt.djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r cyfreithiol. Rhoddwyd ffurf barhaol i'r rhaniadau hyn. mewn cyfansoddiad ysgrifenedig na ellir ei osgoi yn hawdd na'i ddiwygio. Y mae'r rhaniad hwn o allu gwleidyddol, yn allu taleithiol a gallu cyfunol (federal) yn bwysig, gan ceidw allan o wleidyddiaeth genedlaethol rai materion a ystyrir yn hanfodol yn y rhan fwyaf o'r gwledydd. Dyma yn fyr y galluoedd a roddir i'r llywodraeth gyfunol—rheoli polisi tramor, y fyddin, masnach dramor a rhyng-daleithiol, arian bath a chredit cenedlaethol, gwasanaeth y llythyrdy, casglu'r trethi cyfunol a'u rhannu. I ran y taleithiau unigol y disgyn pob gallu na nodir yn arbennig fel gallu cyfunol. Fel mater o ffaith ystyrir o hyd mai yn y taleithiau unigol y gorffwys penarglwyddiaeth. Trosglwyddodd y taleithiau unigol rai galluoedd i'r llywodraeth gyfunol er hwylustod. Yn ymarferol, fodd bynnag, ar ochr y llywodraeth gyfunol y disgyn mantol y gallu gwleidyddol, eithr nid oes ganddo hyd yn hyn reolaeth uniongyrchol ar bethau fel addysg, tai a deddfwriaeth llafur. Y mae'r pethau hyn, i'r graddau y maent yn gyfansoddiadol o gwbl, yn nwylo'r taleithiau. Cyn y gall weithredu o gwbl yn y cyfryw bethau y mae'n rhaid i'r llywodraeth gyfunol fodloni gofynion y cyfansoddiad trwy ddangos fod y deddfau dywededig er budd cyffredinol yr Unol Daleithiau, neu o'r ochr arall eu bod yn 'rheoli masnach rhyng-daleithiol. Fe arwain y cyntaf i ymryson diderfyn ynghylch perthynas budd y rhan a budd y cyfan, a'r olaf i drafodaethau llawn mor astrus ynghylch ystyr 'rheoli.'

Hyd yn oed pe gorchfygid y rhwystr hwn y mae'n rhaid i'r llywodraeth wynebu un arall. Yn ôl y cyfansoddiad ni ellir amddifadu person o fywyd, rhyddid, nac eiddo ar