Tudalen:Roosevelt.djvu/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffrwythlondeb meddwl a pharodrwydd i dderbyn syniadau newydd ac ymddihatru a hen rai; y mae'n mwynhau cwmni pobl ac ymddiddan, y mae ganddo wên barod a llais da a'r ddawn i'w ddefnyddio; nid yw'n esgeulus o'r wasg; gall gasglu o'i gwmpas ganlyniaeth o arbenigwyr a gwŷr selog yn barod i wasanaethu eu 'pennaeth'; nid yw'n aros i ystyried cost ei arbrofion, ac ymhen amser, daw pobl i bendronni uwch y bil. Dechreuodd y ddau fel ei gilydd trwy wrthwynebu'r goludogion o blaid y perchennog bychan; nid oes sicrwydd o gwbl ymhle y diwedda Roosevelt. Ni chafodd Roosevelt yn ei fywyd ei hun unrhyw adfyd economaidd, ond fe briododd ferch yn ymdeimlo'n ddwfn ynghylch anghenion cymdeithasol, a chafodd ddisgyblaeth mewn delfrydiaeth o dan Wilson.

Personoliaeth yr Arlywydd a roes liw ac urddas ar wleidyddiaeth America yn ystod y saith mlynedd diwethaf, ond bu raid iddo weithio o fewn ffrâm y peiriant gwleidyddol. Y mae cyfansoddiad llywodraeth America yn gymhleth, eithr y mae'n ofynnol deall rhyw gymaint arno i amgyffred yn glir bosibiliadau a chyfyngiadau'r gweithgarwch arlywyddol ac yn wir unrhyw weithgarwch gwleidyddol arall.

I. Y CYFANSODDIAD A'R PRIF LYS.

Ymladdodd y gwŷr a ffurfiodd gyfansoddiad America yn erbyn gormes ac awyddent ddiogelu rhagddo yng nghyfansoddiad y wladwriaeth newydd. Gorweddai diogelwch mewn rhannu grym gwleidyddol rhwng y taleithiau unigol a'r Undeb. Rhanasant allu gwleidyddol y Llywodraeth Gyfunol ymhellach yn dair rhan-y deddfwriaethol, y gweithredol