Tudalen:Roosevelt.djvu/3

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ROOSEVELT

GANED Franklin Delano Roosevelt yn y flwyddyn 1882, yn fab bonheddwr-amaethwr cefnog ar lannau'r afon Hudson yn Nhalaith Efrog Newydd. Cafodd ei addysg mewn ysgol ganolraddol, aeth i Brifysgol Harvard, a throes ei fryd at wleidyddiaeth, o bosibl oherwydd bod cefnder pell iddo yn Arlywydd ar y pryd. Eithr Gwladwriaethwr (Republican) ydoedd Theodore Roosevelt, er ei fod yn un goleuedig, bid siwr. Aeth Franklin i mewn i wleidyddiaeth ar yr ochr arall. Yn 1912 gweithiodd dros Woodrow Wilson ar y polisi democrataidd, a bu'n Ysgrifennydd Cynorthwyol i'r llynges drwy'r rhyfel diwethaf. Yn 1920 enwyd Roosevelt fel ymgeisydd am Is-Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau, eithr fe orchfygwyd y Democratíaid ar fater Cynghrair y Cenhedloedd ac ymneilltuodd yntau i fusnes cwmni yswirio. Yn y cyfnod hwn y daeth yr afiechyd hwnnw i'w ran a roddasai derfyn ar waith gŵr llai egniol a phenderfynol nag ef. Tarawyd Roosevelt â pharlys maboed (infantile paralysis) —yr oedd yn ddiffrwyth hollol o'i lwynau i lawr. Yr oedd ei ateb i'w feddyg yn nodweddiadol. "Y mae'n chwerthinllyd dweud wrthyf fi na all dyn yn ei oed orchfygu afiechyd plentyn." Ymladdodd yn erbyn yr afiechyd a'i orchfygu, er mai gydag anhawster mawr y cerdda o hyd. Ymhen ychydig flynyddoedd, yr oedd yn ôl mewn gwleidyddiaeth fel Llywodraethwr Talaith Efrog Newydd, ac yn 1932 etholwyd ef yn Arlywydd yn lle Hoover.

Dywedir yn fynych fod yn Roosevelt lawer o nodweddion Lloyd George. Y mae yr un egni bywydol ynddo, yr un