Tudalen:Roosevelt.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

130 miliwn. Am y tro cyntaf, teimlai'r di-fraint nad dynion anffodus oeddynt mwyach, eithr mai cymdeithas oedd yn gyfrifol am eu cyflwr, ac nad oedd gobaith iddynt hyd nes y newidid y drefn gymdeithasol. Deil llawer i goleddu syniadau'r hen gyfnod, a gwelir mwy o'r rhyddfrydwr radicalaidd na'r sosialydd-chwaethach Marcsydd yng nghyfansoddiad Roosevelt yntau, ond y mae'n eglur fod yr hen raniadau De yn erbyn y Gogledd neu'r Dwyrain yn erbyn y Gorllewin yn diflannu, a'r tlawd yn erbyn y cyfoethog, a'r meddianwyr yn erbyn y difeddiant ydyw patrwm y rhaniadau erbyn hyn. Tra gallech ddal i feddwl bod gennych chwi a'ch plant gyfle da i esgyn i radd gymdeithasol y meddianwyr, gwan oedd yr ysgogiad i ymladd yn eu herbyn. Trwy gyfyngderau'r dirwasgiad goleuwyd llygaid y lliaws a safant wrth y drws bellach, gan guro'n daer. Ni ellir deall y mesurau a fabwysiadwyd dan y Fargen Newydd ond yn y cefndir hwn. Tair "R" Roosevelt oedd 'Recovery, Relief, Reform,' ac er mwyn eu hyrwyddo troes ei sylw at fancio, ffarmio a diwydiant yn gyntaf, ac wedyn. at geisio gwella sefyllfa'r diwaith a swcro busnes i gefnu ar ei islder ysbryd trychinebus.

Y mae cyflwr anosbarthus y banciau pan ddechreuodd Roosevelt ar ei waith y tuhwnt i ddisgrifiad. Aethai lliaws ohonynt yn fethdalwyr, a gorfodwyd llu eraill ohonynt i gau'r drysau. Dengys y mesurau a luniwyd mai sicrwydd yn hytrach na llwyddiant a fyddai arwyddair newydd bywyd cymdeithasol America. Cyfyngwyd ar alluoedd y bancwyr a'r cyfnewidwyr stociau, a gwelodd mawrion Wall Street iddynt gyfarfod â gŵr meistrolgar. Symudwyd canolfan Bwrdd yr Adnoddau Ffederal (Federal Reserve Board) o