Tudalen:Roosevelt.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Efrog Newydd i Washington, ac yswiriwyd â gwarant swyddogol yr adneuon (deposits) a feddai'r banciau a oedd yn aelodau o Gyfundrefn yr Adnoddau Ffederal.

Yr oedd cyflwr ffarmio mor drychinebus â bancio. Cafodd y ffermwyr amseroedd da dros ben yn ystod y rhyfel, ond wedyn, ni chyfranogasant yn y llwyddiant cyffredinol a syrthíasant ar gyfnod drwg. Yr oedd y rhan fwyaf ohonynt mewn dyled mor fawr ac yn talu llogau mor uchel arno nes eu hanalluogi yn gyfangwbl i wynebu'r dirwasgiad cyffredinol. Nid oedd ganddynt o'u blaenau ond gweld gwerthu'r ffermydd a'r stoc dros eu pennau, a'u troi hwythau i'r ffordd. Nid oedd arian ganddynt. Cyfnewidient. nwyddau yn y siopau a'r marchnadoedd, ac yr oedd cyflwr y tir, fel canlyniad i ddwy genhedlaeth neu dair o ffarmio afradlon anghyfrifol, yn gwbl ddiffrwyth.

Cynllun cyntaf Henry Wallace (yr Ysgrifennydd Amaeth egniol a benododd Roosevelt) oedd trefnu'r Gyfundrefn Addasu Amaeth. Taflwyd y cynllun allan gan yr Uchel Lys, ond pasiwyd deddfau eraill gyda'r amcan o godi prisoedd amaethyddol trwy gyfyngu ar gynhyrchiant. Oherwydd y gostyngiad yng ngwerth y dolar, cododd prisoedd eraill, ond rhoddodd y mesurau eraill beth ysgafnhad i'r ffermwyr, yn enwedig gyda'u llogau. Gwnaeth y llywodraeth wasanaeth gwerthfawr trwy dderbyn y cyfrifoldeb am lawer o'r dyledion, gan drefnu llogau is arnynt a'u cyfrif fel dyledion dros dymhorau maith. Gan ddilyn esiampl Iwerddon o ddileu tenantiaid, ymha le bynnag yr oedd hynny'n bosibl, ceisiasant brynu ystadau a ffermydd pan nad oedd y perchenogion yn byw arnynt a'u hail-osod i eraill. Aeth yn gyfrifol hefyd am 635,000 o deuluoedd oedd yn byw ar diroedd mor