Tudalen:Roosevelt.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wael na ellid elw ohonynt. Cododd dai newydd i lawer; trefnodd gynllun gofalus i wella'r tiroedd; i godi safon iechyd addysg ac i hyrwyddo cydweithrediad amaethyddol. Gŵyr y sawl a ddarllenodd "Grapes of Wrath" (Steinbeck) a llyfrau tebyg, am y tlodi affwysol a'r rheibio ar ddynion oedd yn nodweddiadol o'r De, a chymaint oedd yr angen am y mesurau hyn.

Ni fu'r mordwyo mor esmwyth i Roosevelt wrth geisio llywio llong diwydiant. Trwy'r Ddeddf Genedlaethol ail-gyfodi Diwydiant ceisiodd wella amodau gwaith trwy drefniadau gwahanol ar gyfer pob diwydiant. Ymdrechodd y Cadfridog Johnson yn wrol o blaid y cynlluniau, ond yr oedd y dasg yn ormod iddo ac ni allwyd cymhwyso'r mesurau ar ôl yr holl drefnu gofalus a fu arnynt. Nid oedd amheuaeth i'r llywodraeth dderbyn cysur mawr pan gyhoeddwyd y ddeddf yn anghyfreithlon gan yr Uchel-Lys yn 1935. Ond nid ofer y bu'r holl gyhoeddusrwydd a gafodd amgylchiadau diwydiant, a chafodd yr Undebau Llafur hwb anghyffredin trwy'r caniatad a roddwyd i gyd-fargeinio. Eglurwyd hyn ymhellach a'i gadarnhau yn Neddf Wagner. Yn 1932 rhifai aelodau'r Undebau Llafur tua dwy filiwn neu dair ar yr eithaf, a Chyfundeb Americanaidd Llafur (American Federation of Labour) oedd eu prif gyfundrefn. Syniadau ceidwadol a goleddai a chadwai lygaid yn bennaf ar gwmni detholedig y gweithwyr medrus a'r crefftwyr. Blinodd John L. Lewis ar ddulliau "merchetaidd" yr hen Gyfundeb ac ymneilltuodd ohono, efe a'i Undeb—Undeb y Glowyr. Ffurfiodd Bwyllgor Cyfundrefnu Diwydiant (Committee of Industrial Organisation). Dangosodd wroldeb a chydynrwydd eithriadol, gan ymladd y cyrff diwydiannol mwyaf,