Tudalen:Roosevelt.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

megis Cyfarwyddwyr Ford, y Gorfforaeth Ddur, Moduron Cyffredinol, &c. Troesant i'w ymladd yn llythrennol â nwy dagrau, bomiau a gynnau. Ar waetha'r cyfan, y mae ganddo bellach dros bedair miliwn yn ei Gyfundrefn Ddiwydiannol. Dangosodd ei fod yn hollol wahanol i'r hen Gyfundeb trwy gymryd diddordeb uniongyrchol mewn gwleidyddiaeth. Cefnogodd Roosevelt yn 1936, ond tueddu i oeri y mae'r gefnogaeth bellach.

Prif broblemau eraill Roosevelt oedd diweithdra ac yswiriant cymdeithasol. Bu ei gynlluniau ar gyfer y blaenaf bron mor lluosog â thywod mân y môr, ond gwnaed ymdrechion taer iawn i drefnu gwaith i bobl, a buont yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol hefyd. Cymeradwyodd pawb Theatr y Bobl a'r gwersylloedd ar gyfer dynion ieuainc a drefnwyd gan yr Urdd er Amddiffyn Dinasyddion (y Civilian Conservation Corps). Yn y Ddeddf er Diogelu Cymdeithas, cynhwysodd drefniadau ar gyfer Pensiynau'r Hen, Yswiriant Diwaith, darpariadau ar gyfer yr afiach, yr anghenus a'r dall, oherwydd o'r braidd y gwnaed hyn o'r blaen gan yr awdurdodau cyhoeddus. Ond y mwyaf nodedig o'i holl arbrofion cymdeithasol yw Awdurdod Dyffryn y Tennessee, a haedda bennod iddo'i hun.

Yr elfen olaf yn rhaglen y Fargen Newydd ydyw Cyllid. Nid arbedwyd arian, ond yn hytrach tywalltwyd ef yn helaeth er mwyn y gwelliannau, y gweithiau cyhoeddus a'r ad-adeiladu, gan obeithio gweled olwynion busnes yn ail ennill eu cyflymder arferol. Ond pan beidia'r llywodraeth ffederal wario dirywia busnes ac, yn y cyfamser, cynhydda'r ddyled yn gyson. Ni ellir gwadu i ymdrechion Roosevelt i helpu pawb beri i rai ohonynt weithio'n groes i'w gilydd.