Tudalen:Roosevelt.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cŵyn gwŷr busnes ydyw y buasai'n well petae heb ymyrryd a bod y cyfyngiadau arnynt sydd yn y Fargen Newydd fel meini melin am eu gyddfau. Cyhoedda'r radicaliaid eithafol yn hy bod methiant yn anocheladwy, oherwydd nid oes cyfaddawd ymarferol rhwng cymdeithas gyfalafol a delfrydau sosialaidd sut bynnag. Cwestiwn y dydd ydyw a fydd i'r Fargen Newydd barhau, h.y., a fydd i Roosevelt wynebu trydydd etholiad. Gŵyr pawb y gellir mai y tuallan i America y setlir y fath gwestiwn.

5. Y BERTHYNAS AG EWROP.

Daw'r ystyriaeth uchod o'r sefyllfa wleidyddol gyffredinol yn yr Unol Daleithiau a ni yn naturiol at astudiaeth fanylach o agwedd ar wleidyddiaeth sy'n berthynasol iawn ar hyn o bryd—problem anghyfranogiaeth, neutralaeth, America. Byth er pan anogodd Washington, yn ei Anerchiad Ffarwel, i'r Americaniaid i osgoi ymddyrysu ym mhroblemau Ewrop, bu nid yn unig yn axiom ddiplomataidd, ond hefyd yn un o'r hanner dwsin syniadau gwleidyddol sylfaenol a ddysgid i bob Americanwr da, y dylai America sefyll draw oddi wrth amgylchiadau gwledydd ereill. Newidiwyd y polisi hwn beth gan ddatganiad yr Arlywydd Munroe yn 1823, a wnaeth integriti holl wladwriaethau America Ladinaidd, yn ogystal a Gogledd America, yn fater diddordeb yr Unol Daleithiau. Fel gwerin-lywodraeth fechan yn ymdrechu am unoliaeth fewnol, yr oedd yn bosibl i safle cynnar America ei gwneud yn werin gwyddbwyll yn rhyfeloedd Ewropeaidd y cyfnod, a neilltuaeth, yn ddiamau, ydoedd y polisi gorau. Ni phrofodd neilltuaeth, fel yr ydoedd, yn gwbl lwyddiannus,