Tudalen:Roosevelt.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a daeth yr Unol Daleithiau i ryfel â Phrydain yn 1812. ynghylch hawliau marsiandïaeth môr. Tyfodd yr Unol Daleithiau trwy eu datblygiad eithriadol yn y ganrif ddiwethaf yn un o wledydd cryfaf y byd, eithr fe erys seicoleg 'neilltuaeth,' a gall pob plentyn ysgol ddyfynnu rhybudd Washington.

Yn rhinwedd y rhan bwysig a gymerth America yn y rhyfel diwethaf a'i huchafiaeth ariannol ar ei derfyn, gallasai, pe dymunai, chwarae yn yr ugeinfed ganrif y rhan a chwaraeodd Lloegr yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gyda rhyddid cyfatebol oddi wrth ymosodiadau tramor gallasai 'fantoli rhwng y pwerau,' yn anuniongyrchol gan mwyaf, ac estyn ar yr un pryd ei diddordebau masnachol ac ariannol dros y môr. Eithr yr oedd y byd yn fwy cymhleth yn 1919 nag ydoedd mewn blynyddoedd cynharach. Teimlai Americaniaid y gallasai gwladweinwyr Ewrop eu twyllo. Cuddiai delfrydiaeth Wilson yr elw posibl a ddeilliai i'r Unol Daleithiau o gymryd y lle blaen mewn materion tramor, ac yn 1920 penderfynwyd gadael Ewrop i'w thynged.

Cyfrannodd achosion ereill at y polisi hwn, ond nid oes. amheuaeth nad y prif achos ydoedd dychweliad pobl America. at yr egwyddor draddodiadol a adawsant yn ystod y rhyfel. Efallai eu bod bryd hynny yn wleidyddol anaeddfed, ac mai diogelach ganddynt ddilyn cyfarwyddiadau Tadau'r Gwrthryfel na gweithredu barn newydd eu hunain ar sefyllfa byd a newidiasai. Pa un bynnag am hynny, y mae'r egwyddor hon yn ffactor mor rymus ym mywyd America fel bod rhaid i bob Arlywydd gymryd cyfrif ohoni, sut bynnag y deall ef ei hun sefyllfa'r byd.