Tudalen:Roosevelt.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bu'r duedd hon i gyfeiriad neilltuaeth yn gyfrifol am amryw gynigion ar ran yr Unol Daleithiau yn ystod y can mlynedd a hanner diwethaf i ddeddfu ar gyfer heddwch." Yn nyddiau cynnar y werin-wladwriaeth, ni fwriadai Jefferson, heddychwr cadarn a phroffesedig, ganiatau dynnu yr Unol Daleithiau i ryfeloedd Napoleon. Ni phetrusodd, fodd bynnag, fynegi'r gobaith y byddai i'r byd newydd "dewychu'n braf ar ffolinebau'r hen. "Gan mai felly y penodwyd gan ffawd," meddai yn nechrau'r rhyfel, ni allwn lai na gweddio y bydd i'w milwyr fwyta gryn lawer." Tra y dymunai gadw ymlaen yr ymddygiad ddiduedd tuag at y rhyfelwyr, yn ôl cyngor Washington, yr oedd yn llawn mor benderfynol a hynny o ddatgan hawl America i fasnachu â hwy, a gwrthwynebodd yn llym y cyfyngiadau y ceisiodd y rhyfelwyr eu gosod. Pan welodd, fodd bynnag, fod anghydwelediadau ynglŷn â hawliau anghyfranogiaeth yn arwain i wrthdarawiad, ceisiodd yn 1807, gyda mwy o resymeg nac o ddoethineb, gymhwyso Mesur Embargo cynhwysfawr. Gwelodd nad oedd sail ar dir rheswm i wahaniaethu rhwng amrywiol fathau o gontraband. "Un ai y mae pob marsiandiaeth a lesiai elyn yn anghyfreithlon, neu nid oes yr un felly." Gwahaniaeth gradd yn unig sydd rhwng nwyddau o amrywiol fathau. Ni ellir tynnu llinell rhyngddynt.

Ni newidiodd y Mesur Embargo ddim ar syniadau Ffrainc a Phrydain am anghyfranogiaeth, eithr fe leihaodd allforiaeth yr Unol Daleithiau o $108 miliwn i $22 miliwn, a bu mwy nag un dalaith—yn rhagweld ei thranc—yn trafod gwahaniad o'r cyfundeb yn agored. Dilynodd mesur llai eithafol, sef Mesur Gwrth-Gyfathrach, yn anghyfreithloni masnach â Phrydain a Ffrainc, eithr yn caniatau masnachu â phob gwlad