Tudalen:Roosevelt.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arall. Parhau a wnaeth yr ymrafaelion a'r rhyfelwyr, fodd bynnag, ac o'r diwedd, yn 1812, cyhoeddodd yr Unol Daleithiau ryfel ar Brydain Fawr i brotestio hawliau anghyfranogiaeth. Methasai arbrawf heddwch' Jefferson. Y mae hanes y cyfnod hwn yn haeddu sylw, gan y dengys yn glir yr egwyddorion oedd ar waith yng nghyfnod anghyfranogiaeth America yn 1914-17, a'r egwyddorion a reola'r sefyllfa heddiw. Fe all mai ar draul dirywiad masnachol y pwrcesir heddwch, ac fe ddichon i'r bobl benderfynu fod y pris yn rhy uchel.

Beth a ddewisa'r bobl o dan Roosevelt? A oes unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng safle yr Unol Daleithiau heddiw a'u safle yn 1914? Y mae rhai gwahaniaethau pendant iawn mewn economeg a deddfwriaeth. Y mae'n ddiamau bod gwahaniaethau gwleidyddol hefyd, ond mai anodd yw eu mantoli.

Ni edy newyddiaduron Awst, 1914, unrhyw amheuaeth nad oedd, yn y taleithiau dwyreiniol, beth bynnag, gryn gydymdeimlad â'r Pwerau Cynghreiriol, ac atgasedd at ddulliau Ellmynaidd. Tyfodd y gwrthwynebiad hwn yng nghwrs y rhyfel. Fe'i swcrwyd gan bethau fel triniaeth y Belgiaid gan yr Almaen, yr anghaffael a barodd cynlluniau ysbiol yr Almaen, a thrychinebau diwydiannol yn America ei hun y bu gan Von Papen ac ereill ran ynddynt. Yr oedd Woodrow Wilson ei hun yn angerddol o blaid anghyfranogiaeth. Anwesai'r uchelgais o gyflafareddu heddwch ar derfyn y rhyfel. Gwyddai y golygai cymryd rhan yn y rhyfel golli gryn lawer o'i ddylanwad, ac efallai wanhau ei safle fel cyfryngwr yn anadferadwy.

Rhoes gynnwys pendant i athroniaeth neilltuaeth, athron-