Tudalen:Roosevelt.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iaeth oedd braidd yn negyddol. A chenhadaeth America fel heddychwr yr oedd a wnelo ac nid yn gymaint a'i diogelwch. Nid oes amheuaeth mai gyda'r Pwerau Cynghreiriol a'u safbwynt hwy ar fywyd yr oedd ei gydymdeimlad, eithr oherwydd hynny yr oedd yn fanwl ofalus i sylweddoli'r didueddrwydd llwyraf yn ei ymwneud â'r Almaen. Gwnaethpwyd hyn yn berffaith glir yn ddiweddarach gan y Cenad Ellmynig Bernstorff.

Dywedodd Wilson wrth y Senedd yn Awst, 1914, "Y mae'n rhaid inni fod yn ddiduedd mewn meddwl yn ogystal a gweithred, y mae'n rhaid ffrwyno pob sentiment yn ogystal a phob gweithrediad y gellid ei ddehongli fel hoffter mwy at un blaid yn yr ornest na'r llall." Mynegodd y genadwri hon drachefn a thrachefn, a gwnaeth bopeth yn ei allu i hyfforddi'r farn gyhoeddus yn ei syniad ef am ystyr anghyfranogiaeth. Credai fod America yn " sefyll ar wahan yn ei delfrydau," fod i'r "genedl a adeiladodd Duw genhadaeth benodedig fel cenedl gyfryngol y byd" i gynnal egwyddorion gweithredol arbennig a seiliwyd ar gyfraith a chyfiawnder. "Nid ceisio ymgadw rhag helynt yr ydym; ceisio yr ydym ddiogelu'r sylfeini y gellir ail-adeiladu heddwch arnynt."

Yn yr ysbryd hwn y cadwodd Wilson America allan o'r rhyfel hyd Ebrill, 1917, ddwy flynedd bron, sylwer, ar ôl y cynnwrf poblogaidd a ddilynodd suddiad y Lusitania.' Yn y diwedd fe'i gorchfygwyd gan yr Ellmynwyr eu hunain. Yr oedd un gwendid yn arfogaeth anghyfranogiaeth America. Yr oedd yn masnachu â gwledydd y byd. Ym marn rhai cymwys i wybod, y ffactor effeithiol a ddug America i mewn i'r rhyfel diwethaf, yn bendant, ydoedd polisi yr Almaen o